Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-10-14
CLA380 - Gorchymyn Cynllun (Diwygio) Effeithlonrwydd Ynni CRC 2014
Mae'r Gorchymyn hwn ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd CRC 2013 ('Gorchymyn 2013') er mwyn llunio fersiwn derfynol symlach o gynllun effeithlonrwydd ynni annomestig, sef Cynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC.
Mae Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn cynnig y caiff y defnydd o ynni o gyflenwadau sy'n bodloni'r diffiniad o drydan adnewyddadwy a hunangyflenwir, ei gofnodi yn erbyn ffactor trosi allyriadau sero, ar yr amod nad oes cymorth arall gan y Llywodraeth wedi'i dderbyn ar gyfer yr un cyflenwad.
At hynny, mae Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn cynnig cyflwyno eithriad o'r Cynllun CRC ar gyfer ynni a ddefnyddir ar gyfer prosesau metelegol a mwnyddol yr ystyrir eu bod yn gymwys i gael eu heithrio o'r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb 2013.
Mae Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig hefyd wedi manteisio ar y cyfle i wneud nifer o ddiwygiadau technegol i Orchymyn 2013 fel bod geiriad Gorchymyn 2013 yn gliriach i gyfranogwyr.
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Gan mai Gorchymyn Cyfansawdd yw hwn, dim ond yn Saesneg y mae wedi'i wneud.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]
Craffu ar y Rhinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2014
Ymateb y Llywodraeth
Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon (Gwelliant) 2014
Mae'r Gorchymyn ar y cyd hwn, rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, yn gwneud gwelliannau i Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 ('Gorchymyn 2013') er mwyn cwblhau symleiddio cynllun effeithlonrwydd ynni annomestig a adwaenir fel Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon . Mae'n gynllun ledled y DU.
Mae'n darparu ar gyfer y defnydd o ynni o gyflenwadau sy'n bodloni'r diffiniad o drydan adnewyddadwy a hunan-gyflenwir i gael ei adrodd yn erbyn ffactor trosi allyriadau sero, cyn belled ag nad oes cymorth arall wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth ar gyfer yr un cyflenwad. Yn ogystal, mae'r Gorchymyn ar y cyd yn cyflwyno eithriad o Gynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon i ynni a ddefnyddir ar gyfer prosesau metelegol a mwynegol yr ystyrir eu bod yn gymwys i gael eu heithrio o'r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd, fel y cyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb 2013.
Mae'r Gorchymyn ar y cyd hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau technegol i Orchymyn 2013 er mwyn gwneud geiriad Gorchymyn 2013 yn gliriach i gyfranogwyr.
Mae hwn yn Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ac felly cafodd ei osod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dau Dŷ'r Senedd, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd